Sefydlwyd Comisiwn y DU ar Goffáu Covid i ddod o hyd i ffyrdd priodol o gofio’r rhai a gollodd eu bywydau ers dechrau’r pandemig, ac i archwilio sut rydym yn nodi’r cyfnod hwn yn ein hanes.
Cynhaliodd y Comisiwn ymgynghoriad manwl gyda’r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig, gan gynnwys cynrychiolwyr o fudiadau teuluoedd a gafodd brofedigaeth. Ym mis Medi 2023 cyhoeddodd ei adroddiad terfynol, gan argymell diwrnod o fyfyrdod blynyddol ledled y DU.
Trwy barhau i gynnal Diwrnod o Fyfyrdod, yn unol â’r blynyddoedd blaenorol, rydym yn gobeithio cynnig cyfle i gymunedau ledled y wlad ddod ynghyd i gofio am y rhai a gollodd eu bywydau.
Ar ddydd Sul 9 Mawrth 2025, daeth pobl at ei gilydd i:
- gofio a choffáu’r rhai a gollodd eu bywydau ers dechrau’r pandemig
- cofio’r aberth a wnaed gan lawer, ac effaith y pandemig arnom ni i gyd
- talu teyrnged i waith staff iechyd a gofal cymdeithasol, gweithwyr rheng flaen ac ymchwilwyr
- gwerthfawrogi’r rhai fu’n gwirfoddoli neu’n cyflawni gweithredoedd o garedigrwydd yn ystod y cyfnod digynsail hwn
Bydd y Diwrnod o Fyfyrdod COVID-19 nesaf yn cael ei gynnal ddydd Sul 8 Mawrth 2026.