Skip to main content

Cymryd rhan

Effeithiodd pandemig COVID-19 ar lawer ohonom mewn gwahanol ffyrdd.

Mae yna lawer o ffyrdd o gymryd rhan yn y Diwrnod o Fyfyrdod sy’n addas i chi a sut yr hoffech chi gofio a myfyrio.


Dewch o hyd i ddigwyddiad neu le i fyfyrio

Defnyddiwch ein map rhyngweithiol neu  restr digwyddiadau  i ddod o hyd i ffyrdd o nodi’r Diwrnod o Fyfyrdod yn agos atoch chi.


Cyflwynwch ddigwyddiad

Os ydych chi’n bwriadu cynnal digwyddiad Diwrnod o Fyfyrdod, gallwch gyflwyno’ch digwyddiad i’w gynnwys ar ein map rhyngweithiol.

O achlysuron bach gyda theulu a ffrindiau i ddigwyddiadau cymunedol mwy, cynlluniwch ddigwyddiad Diwrnod o Fyfyrdod sy’n teimlo’n iawn i chi.

Gwelsom sefydliadau yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd yn 2025:

  • Daeth cymunedau at ei gilydd yn bersonol i gael paned o goffi a thaith gerdded fyfyriol o amgylch parc neu le coffa.
  • Cafodd gweithgareddau coffa fel ‘wal gofio’, gosod torchau a munud o dawelwch eu cynnal mewn siopau, llyfrgelloedd a mannau cymunedol.
  • Fe wnaeth eglwysi a grwpiau ffydd eraill, mudiadau profedigaeth ac elusennau, addasu eu gwasanaethau i gynnwys cyfle i fyfyrio am y pandemig.

Ffyrdd eraill o gymryd rhan

Nid cynllunio neu fynychu digwyddiadau yw’r unig ffordd i gymryd rhan. Dyma rai syniadau ar gyfer gweithgareddau y mae pobl a grwpiau wedi’u defnyddio o’r blaen.

  • Gwneud ‘cofeb fach’ i’w gosod yn eich ffenestr neu rywle arall i ledaenu ymwybyddiaeth.
  • Goleuo cannwyll er cof am rywun rydych chi wedi’i golli.
  • Cynnal eiliad o fyfyrio tawel am eraill.
  • Rhannu atgofion neu luniau o anwyliaid neu ysgrifennu am eich profiadau.
  • Rhoi i elusen a helpodd chi neu’ch cymuned yn ystod y pandemig.
  • Llofnodi llyfr coffa ar-lein i adael teyrnged ddigidol.
  • Cyflawni gweithred o garedigrwydd i ffrind, aelod o’r teulu neu gymydog.
  • Rhoi i elusen a helpodd chi neu’ch cymuned yn ystod y pandemig. Ar gyfer elusennau yng Nghymru a Lloegr, edrychwch ar y gofrestr elusennau.