A collage board that spells out the word 'Hope'

Cymorth a chefnogaeth

Os oes angen cymorth arnoch chi neu anwylyd, gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o sefydliadau ac adnoddau ar y dudalen hon.

Grwpiau cymunedol

Yn ystod ac ar ôl y pandemig, fe wnaeth pobl ledled y DU ffurfio grwpiau cymunedol i ymgyrchu, hyrwyddo coffa a chynnig cefnogaeth i’r rhai a gollodd anwyliaid. 

Ymgynghorwyd â llawer o’r grwpiau hyn fel rhan o Gomisiwn y DU ar gyfer Coffáu COVID-19 a’r Diwrnod Myfyrio. 

Fe welwch restr o’r grwpiau hyn ar y dudalen hon, rhai ohonynt yn gymunedau Facebook preifat a reolir gan aelodau’r cyhoedd. . 

National Covid Memorial Wall

Mae Friends of the Wall [Cyfeillion y Wal] yn dîm o wirfoddolwyr mewn profedigaeth sydd wedi gofalu am a chynnal Wal Goffa Covid Genedlaethol ers haf 2021. Os ydych chi wedi colli anwylyd i COVID-19, gallwch chi ychwanegu cyflwyniad iddyn nhw ar eu tudalen coffa.

Covid-19 Bereaved Families for Justice UK

Grŵp ymgyrchu ambarél o bron i 7,000 o bobl mewn profedigaeth ledled y DU. Mae hyn yn cynnwys nifer o grwpiau sy’n cynrychioli teuluoedd mewn gwahanol ardaloedd ar draws y DU.

Covid-19 Bereaved Families for Justice, Cymru- Facebook

Mae Teuluoedd mewn Profedigaeth Covid-19 er Cyfiawnder, Cymru yn cynrychioli pawb sydd wedi cael profedigaeth oherwydd COVID-19 yng Nghymru.

Scottish Covid Bereaved- Facebook

Mae Teuluoedd mewn Profedigaeth yr Alban (Teuluoedd Covid-19 er Cyfiawnder yr Alban yn flaenorol) yn grŵp cyfiawnder gyda thua 200 o aelodau.

Covid-19 Families UK- Facebook

Rhwydwaith cenedlaethol o grwpiau cymorth ledled y DU ar gyfer y rhai sydd wedi cael profedigaeth oherwydd COVID-19 ac a oedd yn profi galar arall yn ystod y pandemig.

Covid-19 Families Scotland-Facebook

Mae Teuluodd Covid-19 yr Alban yn grŵp cymorth ar gyfer y rhai yn yr Alban sydd wedi cael profedigaeth oherwydd COVID-19 ac a oedd yn profi galar arall yn ystod y pandemig.

Yellow Hearts to Remember- Facebook

Cymuned ar-lein sy’n gwahodd pobl i gofio anwyliaid gyda’i gilydd trwy rannu calonnau melyn yn eu ffenestri.

Yellow Hearts Wales- Facebook

Dechreuwyd Calonnau Melyn Cymru gan deulu a adeiladodd gofeb bersonol o gerrig ar ochr mynydd Cymreig. Yna gofynnodd y grŵp am enwau eraill a fu farw yn y pandemig, a ysgrifennwyd ar gerrig llechi ac a gafodd eu hychwanegu at Gofeb y Galon Felen.

Memory Stones of Love, Northern Ireland- Facebook

Mae Cerrig Cof Cariad yn creu ac yn arddangos cerrig wedi’u paentio i deuluoedd Gogledd Iwerddon i gofio eu hanwyliaid a fu farw yn ystod y pandemig.

Cymorth profedigaeth

Bereavement help and support- GOV.UK

Mae’r dudalen hon yn rhestru sefydliadau sy’n cynnig gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau; gan gynnwys sut i ddod o hyd i rywun i siarad ag ef/hi pan ydych chi’n cael trafferth.

Get help with grief- NHS guidance

Canllawiau’r GIG ar y camau i’w cymryd wrth ymdrin â cholled.